MENU

 

Chweched cynhadledd flynyddol ryngwladol (Toronto, Canada)

Pleser i Ombwdsman Ontario oedd cynnal chweched cynhadledd flynyddol Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith yn Toronto, Canada ar 26 a 27 Mehefin.

Gwarchod Lleiafrifoedd Ieithyddol, Adeiladu Cymunedau Cryfach

Daeth y gynhadledd â chynrychiolwyr lefel uchel o chwe chyfandir ynghyd, gan gynnwys sefydliadau rhyngwladol a llywodraethau yn ogystal â chomisiynwyr iaith, ombwdsmyn, arbenigwyr ac aelodau o sefydliadau cymunedol, i drafod heriau a llwyddiannau gwarchod ieithoedd lleiafrifol ar draws y byd.

Trosglwyddwyd rôl comisiynydd gwasanaethau Ffrangeg y dalaith i ombwdsman Ontario yn sgil deddfwriaeth newydd ar 1 Mai, ac felly Paul Dubé, Ombwdsman Ontario, oedd yn cynnal y gynhadledd eleni. “Mae’n fraint ac yn anrhydedd enfawr i groesawu fy nghydweithwyr IALC newydd i Toronto ar adeg lle mae hawliau ieithyddol o ddiddordeb cyhoeddus yn Ontario,” meddai Mr. Dubé.

Bu’r gynhadledd deuddydd yn archwilio rôl ganolog ombwdsmyn iaith wrth warchod cymunedau ieithoedd lleiafrifol a'u rhan hollbwysig yn hwyluso integriad cymdeithasol, heddwch ac yn atal gwrthdaro mewn cymunedau amlethnig, amlieithyddol.

Amlygodd y gynhadledd realiti gwarchod ieithoedd brodorol a thrafodwyd arferion da wrth sicrhau hawliau ieithoedd lleiafrifol yn ogystal â’r rhwystrau cyffredin sy’n wynebu ombwdsmyn a chomisiynwyr iaith yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Roger D. Jones, ymgynghorydd cyfreithiol i Swyddfa’r Prif Weithredwr Cenedlaethol, Cynulliad Cenhedloedd Cyntaf Canada, a draddododd yr araith agoriadol. Roedd siaradwyr enwog eraill yn cynnwys Raymond Théberge, Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada; Dr. Mali Nomfundo, Prif Weithredwr Bwrdd Iaith De Affrica Gyfan; Michael Conor Cook, Cyd-drefnydd Ieithoedd Brodorol Cenedlaethol,  Inuit Tapiriit Kanatami; a Kirsi Pimiä, Ombwdsmon yn erbyn gwahaniaethu y Ffindir.

Yn ei araith i gloi’r gynhadledd, nododd Prif Ustus Goruchaf Lys Canada, Richard Wagner, fod “rhwystrau ieithyddol yn tanseilio pob agwedd ar fywyd dinasyddion – gofal iechyd, cyflogaeth, ymwneud â gwleidyddiaeth a mynediad at gyfiawnder.”

Roedd yr Ustus Wagner yn cydnabod gwaith pwysig yr IALC wrth warchod grwpiau ieithoedd lleiafrifol, gan nodi wrth gael gwared â rhwystrau ar gyfer lleiafrifoedd ieithyddol, “rydym ni’n gwneud mwy na rhoi help iddyn nhw, rydym i’n adeiladu cymdeithas sy’n fwy cynhwysol a chyfiawn i bawb.”

Yn ystod y gynhadledd, cyhoeddodd aelodau’r IALC, ar y cyd â nifer a academyddion, y llyfr Constitutional Pioneers, sy’n trafod rôl, swyddogaeth a dulliau gweithio comisiynwyr iaith ledled y byd. Dyma gyfrol dwy ran sy’n cyfuno theori ag arfer ac sy’n cynnig dadansoddiad o’r actwyr newydd hyn a luniwyd i warchod hawliau lleiafrifoedd ieithyddol ar draws y byd. Dilynwch y ddolen hon i ganfod rhagor neu i brynu eich copi o'r llyfr.

“Roedd y gynhadledd hon yn un arwyddocaol i’r IALC wrth i’r gymdeithas barhau i geisio lledaenu ei neges ar draws y byd,” meddai Rónán Ó Domhnaill, Cyn-gadeirydd IALC a Chomisiynydd Iaith Iwerddon.

Yn dilyn y gynhadledd, cynhaliodd bwrdd IALC ei gyfarfod cyffredinol blynyddol ac enwebu cadeirydd newydd sef Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada, Raymond Théberge, ynghyd ag Is-gadeirydd sef Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg.

Dymuna’r pwyllgor trefnu ddiolch i’r rhai a gyfrannodd i’r digwyddiad ac i’r rhai a gynorthwyodd i wneud y gynhadledd hon yn bosibl.

Lluniau'r gynhadledd

Rhaglen y gynhadledd

Erthyglau a dolenni at dudalenau'r cyfryngau (Dolenni ddim ar gael yn Saesneg)