Amdanom ni
Cenhadaeth
Cenhadaeth CYMDEITHAS RYNGWLADOL Y COMISIYNWYR IAITH yw cefnogi a hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol ledled y byd a chefnogi comisiynwyr iaith fel eu bod yn gallu gweithio gan gadw at y safonau proffesiynol uchaf, fel a ganlyn:
- Rhannu profiad a chyfnewid gwybodaeth am arferion gorau;
- Cynorthwyo neu gynghori ar sefydlu swyddfeydd Comisiynwyr Iaith;
- Hwyluso’r arfer o gyfnewid adnoddau, ymchwil a gwybodaeth sy’n gysylltiedig â hyfforddiant a datblygiad proffesiynol;
- Cydweithredu gyda sefydliadau tebyg sy’n gweld gwerth mewn hybu ac amddiffyn hawliau ac amrywiaeth ieithyddol.
Datganiad o Weledigaeth
Mae CYMDEITHAS RYNGWLADOL Y COMISIYNWYR IAITH yn helpu gyda rôl y comisiynwyr iaith ledled y byd drwy hybu arferion gorau a safonau rhagoriaeth a thrwy hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol.
Gwerthoedd
Gwerthoedd CYMDEITHAS RYNGWLADOL Y COMISIYNWYR IAITH
- Didwylledd: Bydd y Gymdeithas yn cynnal yr holl weithgareddau’n gyfrifol gyda thegwch ac atebolrwydd i’w haelodau a’r proffesiwn
- Gwasanaeth: Bydd y Gymdeithas yn cefnogi ei haelodau drwy ddarparu’r cyngor a’r cymorth gorau fel sy’n briodol.
- Parch: Bydd y Gymdeithas yn meithrin parch at bob iaith.
- Cydweithio: Bydd y Gymdeithas yn hybu rhyngweithio ymhlith ei haelodau ac yn gweithio gyda sefydliadau eraill er mwyn hyrwyddo’r proffesiwn a hefyd hybu hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol.
- Annibyniaeth: Bydd y Gymdeithas yn hybu’r egwyddor o annibyniaeth i gomisiynwyr iaith.
Amcanion
Dyma amcanion CYMDEITHAS RYNGWLADOL Y COMISIYNWYR IAITH:
- Hybu, cefnogi a hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol;
- Rhannu profiad, dealltwriaeth a chysylltiadau rhwng swyddfeydd comisiynwyr iaith;
- Annog cyfnewid gwybodaeth a dysgu oddi wrth ei gilydd rhwng swyddfeydd y comisiynwyr iaith a darparu cyfrwng i aelodau hyrwyddo arferion gorau a datblygu sylfaen wybodaeth gadarnach am ymdrechion i amddiffyn hawliau ieithyddol;
- Creu mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o rôl a gwerth Comisiynwyr Iaith ymhlith Llywodraethau, asiantaethau gwladwriaethol, academia, y cyfryngau a’r cyhoedd yn gyffredinol;
- Diffinio, cyhoeddi a pharhau i adolygu’r meini prawf ar gyfer cydnabyddiaeth i swyddfeydd comisiynwyr iaith gan y Gymdeithas ac i ddyfarnu cydnabyddiaeth i’r rhai sy’n bodloni’r meini prawf penodol ar gyfer cydnabyddiaeth fel comisiynwyr iaith ledled y byd;
- Cefnogi rhanbarthau sy’n dymuno creu swydd comisiynydd iaith neu hyrwyddo eu hawliau ieithyddol;
- Rhannu hyfforddiant a datblygiad neu gyfleoedd cyfnewid gwaith;
- Rhannu ymchwil seiliedig ar dystiolaeth er mwyn hyrwyddo hawliau ieithyddol.